SL(6)258 – Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022

Cefndir a diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth yr UE a ddargedwir er mwyn caniatáu i brawf titr gwrthgorff y gynddaredd arall gael ei ddefnyddio ar anifeiliaid anwes sy’n dod i Gymru o’r tu allan i’r DU.

Roedd Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) 2022 (y “Rheoliadau Cyntaf”) yn caniatáu defnyddio prawf titr gwrthgorff y gynddaredd arall ar anifeiliaid anwes sy'n dod i Gymru o drydedd wlad tan 1 Hydref 2022. Mae’r Rheoliadau hyn yn awdurdodi’r prawf hwnnw am gyfnod pellach o chwe mis gan ddechrau ar 1 Hydref 2022.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu’r Rheoliadau Cyntaf o 1 Hydref 2022 ymlaen.

Sail resymegol Llywodraeth Cymru o ran y polisi, fel yr esbonir yn y Memorandwm Esboniadol, yw, “Bydd caniatáu defnyddio prawf ychwanegol yn cyflymu'n sylweddol y broses o brofi am y gynddaredd mewn anifeiliaid anwes sy'n dod i mewn i Gymru, ar adeg pan fydd y system yn ymdrin ag ôl-groniad sylweddol oherwydd bod pobl sy'n dianc o Wcráin yn dod â'u hanifeiliaid anwes i mewn. Bydd hyn yn lleihau'r baich cyffredinol ar leoedd cwarantin ac yn galluogi pobl i gael eu hanifeiliaid anwes yn ôl ynghynt, wrth hefyd gynnal bioddiogelwch Prydain Fawr, gan ddiogelu rhag risgiau sy’n gysylltiedig ag iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd.”

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu    

Nodir y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi'r canlynol:

“Roedd swyddogion o'r farn bod hon yn sefyllfa eithriadol a bod angen gweithredu fel mater o frys. Mae angen i'r diwygiadau fod ar waith cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau cysondeb ledled y DU, ac maent am gyfnod dros dro. Mae DEFRA wedi gwneud rheoliadau cyfatebol ar gyfer Lloegr, a ddaw i rym ar 1 Hydref 2022, ac mae Llywodraeth yr Alban hefyd yn gwneud rheoliadau cyfatebol, felly bydd y rheoliadau hyn yn sicrhau cysondeb ledled Prydain Fawr.”

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae’r nodyn esboniadol i destun Saesneg y Rheoliadau yn cadarnhau, ym mharagraff 2, fod y prawf a awdurdodir gan reoliad 3 yn ymwneud ag anifeiliaid anwes sy’n dod i Gymru,

“…from a third country, for a further period of 6 months following the expiry and revocation of The Non-Commercial Movement of Pet Animals (Amendment) (Wales) Regulations 2022”.

Nid yw'r testun a ddyfynnir yn ymddangos yn fersiwn Gymraeg y nodyn esboniadol. Er y cydnabyddir nad yw'r testun a adawyd allan yn rhan o'r Rheoliadau, gallai ei absenoldeb arwain at ddryswch i'r sawl sy'n darllen y testun Cymraeg.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r ail bwynt adrodd technegol.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

20 Medi 2022